Job 38

Duw yn siarad â Job

1Yna dyma'r Arglwydd yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:

2“Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i,
ac yn siarad heb ddeall dim?
3Torcha dy lewys fel dyn!
Gofynna i gwestiynau, a gei di ateb.
4Ble roeddet ti pan osodais i sylfeini'r ddaear?
Ateb fi os wyt ti'n gwybod y cwbl!
5Pwy benderfynodd beth fyddai ei maint?
– ti'n siŵr o fod yn gwybod!
Pwy wnaeth ddefnyddio llinyn i'w mesur?
6Ar beth y gosodwyd ei sylfeini?
Pwy osododd ei chonglfaen?
7Ble oeddet ti pan oedd sêr y bore yn canu gyda'i gilydd
a holl angylion Duw yn gweiddi'n llawen?
8Pwy gaeodd y drysau ar y môr
wrth iddo arllwys allan o'r groth?
9Fi roddodd gymylau yn wisg amdano,
a'i lapio mewn niwl trwchus.
10Fi osododd derfyn iddo,
a'i gadw tu ôl i ddrysau wedi eu bolltio.
11Dywedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach;
dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’
12Wyt ti erioed wedi gorchymyn i'r bore ddod,
a dangos i'r wawr ble i dorri,
13a sut i ledu a gafael yn ymylon y ddaear,
ac ysgwyd y rhai drwg oddi arni?
14Mae ei siâp yn dod i'r golwg fel clai dan sêl,
a ffurfiau'r tir i'w gweld fel plygion dilledyn.
15Mae'r golau'n tarfu ar y rhai drwg,
ac mae'r fraich sy'n treisio'n cael ei thorri.
16Wyt ti wedi bod at y ffynhonnau sy'n llenwi'r môr,
neu gerdded mannau dirgel y dyfnder?
17Ydy giatiau marwolaeth wedi eu dangos i ti?
Wyt ti wedi gweld y giatiau i'r tywyllwch dudew?
18Oes gen ti syniad mor fawr ydy'r ddaear?
Os wyt ti'n gwybod hyn i gyd – dywed wrtho i!
19Pa ffordd mae mynd i ble mae'r golau'n byw?
O ble mae'r tywyllwch yn dod?
20Wyt ti'n gallu dangos ble mae ffiniau'r ddau,
a dangos iddyn nhw sut i fynd adre?
21Mae'n siŵr dy fod, gan dy fod wedi dy eni bryd hynny,
ac wedi bod yn fyw ers cymaint o flynyddoedd!
22Wyt ti wedi bod i mewn i stordai'r eira,
neu wedi gweld y storfeydd o genllysg
23sy'n cael eu cadw ar gyfer y dyddiau anodd,
pan mae brwydrau a rhyfeloedd?
24Sut mae mynd i ble mae'r mellt yn cael eu gwasgaru?
O ble daw gwynt y dwyrain i chwythu drwy'r byd?
25Pwy gerfiodd sianelau i'r stormydd glaw,
a llwybrau i'r mellt a'r taranau,
26iddi lawio ar dir lle does neb yn byw,
ac anialwch sydd heb unrhyw un yno?
27Mae'r tir anial sych yn cael ei socian,
ac mae glaswellt yn tyfu drosto.
28Oes tad gan y glaw?
Pwy genhedlodd y defnynnau gwlith?
29O groth pwy y daeth y rhew?
Pwy roddodd enedigaeth i'r barrug,
30pan mae'r dŵr yn troi'n galed,
ac wyneb y dyfroedd yn rhewi?
31Alli di blethu Pleiades
neu ddatod belt Orion?
32Alli di ddod â'r planedau allan yn eu tymor,
neu dywys yr Arth Fawr a'r Arth Fach?
33Wyt ti'n gyfarwydd â threfn y cosmos,
a sut mae'n effeithio ar y ddaear?
34Alli di roi gorchymyn i'r cymylau
i arllwys dŵr ar dy ben fel llif?
35Alli di alw ar y mellt i fflachio,
a'u cael nhw i ateb ‘Dyma ni’?
36Pwy sy'n rhoi doethineb i'r galon
a deall i'r meddwl?
37Pwy sy'n ddigon clyfar i gyfri'r cymylau?
Pwy sy'n gallu arllwys dŵr o gostreli'r awyr
38a gwneud i'r pridd lifo fel llaid,
ac i'r talpiau o bridd lynu wrth ei gilydd?
39Wyt ti'n gallu hela ysglyfaeth i'r llewes,
a rhoi bwyd i'r llewod ifanc
40sy'n gorwedd yn eu gwâl,
neu'n llechu dan y llwyni am helfa?
41Pwy sy'n rhoi bwyd i'r gigfran
pan mae ei chywion yn galw ar Dduw
a hithau'n hedfan o gwmpas heb ddim?
Copyright information for CYM